Job 42

Job yn cyfaddef ei fai

1Dyma Job yn dweud wrth yr Arglwydd:

2“Dw i'n gwybod dy fod ti'n gallu gwneud unrhyw beth;
does dim modd rhwystro dy gynlluniau di.
3‘Pwy ydy hwn sy'n amau fy nghynllun i,
ac yn deall dim?’ meddet ti.
Ti'n iawn, dw i wedi siarad am bethau doeddwn i ddim yn eu deall;
pethau oedd y tu hwnt i mi, pethau allwn i mo'u dirnad nhw.
4‘Gwranda arna i, a gwna i siarad;
Gofynna i gwestiynau, a gei di ateb,’ meddet ti.
5O'r blaen, wedi clywed amdanat ti oeddwn i,
ond nawr dw i wedi dy weld drosof fy hun.
6Felly, dw i'n tynnu'r cwbl yn ôl,
ac yn edifarhau mewn llwch a lludw.”

Duw yn barnu'r tri ffrind

7Ar ôl i'r Arglwydd siarad â Job, dyma fe'n dweud wrth Eliffas o Teman, “Dw i'n ddig iawn gyda ti a dy ddau ffrind, am beidio dweud beth sy'n wir amdana i, yn wahanol i fy ngwas Job. 8Felly cymerwch saith tarw a saith hwrdd a mynd at fy ngwas Job ac offrymu aberth i'w losgi drosoch eich hunain. Bydd fy ngwas Job yn gweddïo drosoch chi, a bydda i'n gwrando arno. Felly fydda i ddim yn delio gyda chi fel dych chi'n haeddu am beidio dweud beth sy'n wir amdana i, yn wahanol i fy ngwas Job.”

9Felly dyma Eliffas o Teman, Bildad o Shwach a Soffar o Naäma yn mynd a gwneud beth ddwedodd yr Arglwydd wrthyn nhw, a dyma'r Arglwydd yn gwrando ar weddi Job.

Duw yn bendithio Job

10Ar ôl i Job weddïo dros ei ffrindiau, dyma'r Arglwydd yn rhoi yn ôl iddo y cwbl oedd wedi ei golli – yn wir rhoddodd yr Arglwydd iddo ddwywaith cymaint ag o'r blaen.

11Daeth ei frodyr a'i chwiorydd, a'i hen ffrindiau i gyd, i'w dŷ am bryd o fwyd, ac i gydymdeimlo gydag e a'i gysuro am yr holl drasiedïau oedd yr Arglwydd wedi eu dwyn arno. Rhoddodd pob un ohonyn nhw arian a modrwy aur iddo.

12Dyma'r Arglwydd yn bendithio Job fwy yn y blynyddoedd ar ôl hynny nag roedd wedi gwneud yn y blynyddoedd blaenorol. Roedd ganddo un deg pedair mil o ddefaid, chwe mil o gamelod, mil o barau o ychen, a mil o asennod. 13Hefyd cafodd saith mab a thair merch. 14Enw'r ferch hynaf oedd Jemima, Cetsia oedd enw'r ail, a Ceren-hapwch oedd y drydedd. 15Doedd dim merched harddach i'w cael yn unman, a rhoddodd Job etifeddiaeth iddyn nhw fel i'w brodyr.

16Cafodd Job fyw am gant pedwar deg o flynyddoedd ar ôl hynny, a gwelodd bedair cenhedlaeth o'i ddisgynyddion. 17Felly, roedd Job yn hen ŵr mewn oedran mawr pan fuodd e farw.

Copyright information for CYM